Job Cymru
*
*
 

Economi Canolbarth Cymru

Harddwch Diwylliannol a Daearyddol
Mae economi Canolbarth Cymru yn cwmpasu siroedd Powys, Ceredigion a rhanbarth Meirionnydd o fewn Gwynedd. Mae’n un o’r siroedd harddaf a lleiaf poblog yng Nghymru. Mae nodweddion naturiol ac hanesyddol pwysig iawn i’r Canolbarth, megis arfordir eang Bae Ceredigion a mynyddoedd gwyllt Bannau Brycheiniog.

Mid Wales

Mae hefyd digonedd o atyniadau diwylliannol ac addysgol, gan gynnwys pentref hudolus Portmeirion – cartref y gyfres deledu ‘The Prisoner’ – a Chanolfan Technoleg Amgen CAT ger Machynlleth – canolfan amgylcheddol, arloesol.

Mae’n bosib fod harddwch diwylliannol a daearyddol yr ardal yn help i esbonio pam fod Ceredigion wedi gweld cynnydd o 14% yn ei phoblogaeth yn y 10 mlynedd rhwng 1991 a 2001. Yn ystod yr un cyfnod, dim ond 1% oedd cynnydd poblogaeth Cymru gyfan. Prif achos y cynnydd sylweddol hwn yw mewnfudo – sy’n dangos bod y Canolbarth yn gyrchfan boblogaidd i newydd-ddyfodiaid.

Yr Economi a Chyfleon Gwaith y Dyfodol
Yn draddodiadol, mae economi Canolbarth Cymru wedi dibynnu ar sectorau megis amaeth, coedwigaeth a gweithgynhyrchu – sectorau sydd wedi dioddef yn ddiweddar o ganlyniad i bwysau prisiau a chlwy’r traed a’r genau. Fodd bynnag, mae cyflogaeth mewn gweithgynhyrchu nawr yr un peth â chyfartaledd y DU; yn wir, mae wedi cryfhau yn y blynyddoedd diweddar, er waethaf dirywiad trwy’r DU ar y cyfan. Mae canran gynyddol o gyfleon gweithgynhyrchu Canolbarth Cymru nawr mewn meysydd gwerth ychwanegol, sydd yn amlygu’r ystod eang o gyfleon amrywiol sydd bellach ar gael yn y Canolbarth.

Mae daearyddiaeth, topograffeg a sylfaen sgiliau’r Canolbarth yn rhoi’r ardal mewn sefyllfa gref i fanteisio ar gyfleon twf newydd megis ffermydd gwynt a chwilio am nwy ac olew. Yn wir, mae tair fferm wynt bellach yn gweithio yng Ngheredigion, a thrwyddedau hefyd wedi eu rhoi ar gyfer chwilio am nwy ac olew. Bydd y sectorau twf newydd hyn yn cynnig swyddi o safon uchel yn y rhanbarth.

Er fod bron hanner busnesau cofrestredig y Canolbarth yn gweithio yn y diwydiannau amaeth a physgota, mae cyfleon gwaith pellach yn ymddangos o sectorau twf newydd sydd wrthi’n datblygu, megis twristiaeth a sectorau perthnasol gwestai a dosbarthu. Mae’r twf ym mhoblogrwydd trefi glan môr traddodiadol hefyd yn rhoi cyfle gwych i’r ardal ddenu ymwelwyr a chreu swyddi newydd.

Tan yn ddiweddar, nid oedd isadeiledd TGCh y Canolbarth o safon uchel iawn ar y cyfan tu allan i ardaloedd megis Aberystwyth, y Drenewydd a’r ardaloedd cyfagos. Fodd bynnag, mae menter £100m diweddar gan y Cynulliad Cenedlaethol ac Awdurdod Datblygu Cymru i sbarduno’r cyflenwad a’r galw am fand eang yn cynnig llu o gyfleoedd newydd i Ganolbarth Cymru. Bydd y pecyn yn sicrhau bod band eang ar gael i bob defnyddiwr yng Nghymru am bris fydd fwy neu lai’n gyfartal, dim ots lle maen nhw. Bydd y dechnoleg hon yn rhoi cyfleon ar gyfer teleweithio ac ar gyfer mentrau busnes newydd a bydd yn galluogi’r ystod gyfan o werthiant e-fasnach gan sefydliadau yn y Canolbarth, a bydd hyn yn arwydd pellach fod yr ardal yn amrywio gyda’r amserau.

Ffigwr 1: Prif Sectorau Cyflogaeth Canolbarth Cymru

Ffigwr 1: Prif Sectorau Cyflogaeth Canolbarth Cymru

Ar hyn o bryd, mae ychydig dros chwarter pawb sy’n gweithio yn y Canolbarth yn hunan-gyflogedig; llawer uwch na chyfartaledd Cymru gyfan. Mae hyn yn dangos cyfle gwirioneddol ar gyfer twf gan fusnesau bychain arloesol a mentrau newydd.

Twristiaeth – Y Sector Twf Uchel
Mae gan y rhanbarth lawer iawn i’w gynnig i ymwelwyr o wyl Jazz Aberhonddu i drefi gwyliau Bae Ceredigion. Mae prosiect pwysig newydd o’r enw Terra Nova, fydd yn gallu denu tua 200,000 o ymwelwyr i’w 8 fferm hanesyddol sy’n dyddio nôl 4,000 o flynyddoedd – hefyd dan adolygiad ar hyn o bryd, ac mae eto’n dangos y cyfleon newydd sy’n bodoli o safbwynt twristiaeth a chyflogaeth yn y Canolbarth. Mae Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru hefyd yn rhan annatod o’r economi, gan ddenu dros 200,000 o ymwelwyr yn flynyddol, a chwistrellu amcangyfrif o tua £35m y flwyddyn mewn i fusnesau lleol.

Mae harddwch naturiol yr ardal yn sail i weithgareddau poblogaidd eraill ar gyfer ymwelwyr, gan gynnwys cerdded, chwarae golff, marchogaeth ceffylau, beicio, ynghyd â chwaraeon mwy anarferol megis snorclo cors.

Mae Strategaeth Twristiaeth Canolbarth Cymru 1999 yn bwriadu tyfu sector twristiaeth y Canolbarth gan £41m erbyn 2008, gan greu 1,200 o gyfleon gwaith ychwanegol yn lleol.

Iaith ac Addysg
Mae’r iaith Gymraeg yn elfen bwysig yn niwylliant a threftadaeth yr ardal. Mewn nifer o drefi a phentrefi o gwmpas y Canolbarth, mae’r Gymraeg yn parhau i fod yn iaith gyntaf, a chyda’r nifer cynyddol o ganolfannau gweinyddol rhanbarthol, mae cyfleoedd gwaith trwy gyfrwng y Gymraeg yn debygol o gynyddu.

Mid Wales

Mae safonau addysg y Canolbarth yn wych, gyda dosbarthiadau ysgol llai a chyrhaeddiad TGAU uwch na chyfartaledd Cymru. Mae addysg bellach ac uwch yr ardal hefyd yn drawiadol, gyda dros 20% o drigolion y Canolbarth wedi eu haddysgu i safon gradd neu uwch. Mae’r cyrhaeddiadau hyn yn dangos cryfder yr ardal o ran nifer ei sefydliadau addysg uwch a phellach, gan gynnwys Coleg Powys, a Cholegau Prifysgol Cymru Aberystwyth a Llanbedr Pont Steffan.

Ansawdd Bywyd Uwch
Mae ansawdd bywyd Canolbarth Cymru yn uchel, oherwydd bod digon o le, harddwch naturiol, a chyfoeth ac amrywiaeth diwylliannol. Mae’r ffactorau hyn, ynghyd â chyfleon gwaith cynyddol mewn sectorau newydd a safonau addysg uchel yn gwneud y Canolbarth yn ardal ddeniadol i fyw ac i weithio.



 
Wales Regions
Cliciwch ar y map i weld ardal

Tinopolis
*
Tinopolis, sydd â’i bencadlys yn Llanelli, yw’r cwmni cynhyrchu teledu mwyaf ym Mhrydain y tu allan i Lundain, yn ôl arolwg gynhaliwyd yn ddiweddar yng nghylchrawn Broadcast.
*
*
*
*
*

*
Swyddi Gwag
*
05/08/2004
Caerdydd - Cardiff
Bydd y swydd hon yn gyfrifol am weithredu’r ...
* * *

*
Newyddion Diweddaraf
*
24/06/2004
JobCymru yn rhoi Sir Gar ar y map
Bu Heledd Cynwal, sy’n wyneb cyfarwydd iawn i’r rhai sy’n dilyn rhaglen Wedi 7, yn ymweld â Ysgol y Strade, Llanelli ar ddydd Mawrth yr 22ain o Fehefin.
* * *

 

 Gorwelion - Menter a Busnes