Canllawiau Ar-Lein JobCymru.com
Cyflwyniad Cyffredinol
Mae'r Gronfa Ddata Cwmnïau (y Swyddiadur ar y We) yn cynnwys proffiliau ystod eang o gwmnïau lleol, a'r rhain wedi eu rhannu'n 4 categori:
- Cynhyrchu
- Gwerthu
- Twristiaeth & Hamdden
- Gwasanaeth
Mae proffil pob cwmni yn cynnwys:
- Manylion Cyswllt y cwmni
- Y nifer a gyflogir
- Disgrifiad byr o'r hyn mae'r cwmni yn ei wneud
- Hyfforddiant gaiff ei gynnig i'r staff
- Y Sgiliau y mae gofyn amdanynt
- Rhinweddau Personol gwerthfawr
- Oes Profiad Gwaith yn cael ei gynnig ai peidio
- Ystod y Swyddi sydd ar gael
- Lefel y cymwysterau sydd eu hangen ar gyfer pob swydd (1-5)
- Lefel rhuglder yn y Gymraeg sydd yn ofynnol er mwyn cyflawni'r swydd (1-5)
Lefelau cymwysterau
Mae'r Cymwysterau sydd yn ofynnol ar gyfer pob swydd wedi eu rhannu'n 5 lefel. Mae hyn yn ei gwneud hi'n hawdd cymharu gwahanol fathau o gymwysterau a'r llwybrau sydd ar gael i bobl er mwyn cyrraedd swydd e.e. NVQ, Lefel A, TGAU, HND ayb. Mae'r tabl isod yn esbonio'r lefelau cymwysterau hyn.
|
||||||||||||||||||||||
* Bydd TGAU Galwedigaethol yn cymryd lle'r GNVQ Sylfaenol a'r GNVQ Canolradd yn y dyfodol agos.*
Sgiliau Dwyieithog
Mae pob swydd yn y Proffiliau Cwmni ar-lein yn cael rhif rhwng 1 a 5
gan ddibynnu ar lefel y gallu yn yr iaith Gymraeg sydd yn ofynnol i
gyflawni'r swydd honno.
|



