Job Cymru
*
*
 

Canllawiau Ar-Lein JobCymru.com

Dal yn yr Ysgol neu'r Coleg?

Beth sydd gan fyd gwaith i wneud â fi? Cwestiwn da. Yr ateb yw – fe fyddwch chi’n rhan ohono’n ddigon buan! Mae’r rhai ohonoch chi sydd yn gweithio ar benwythnos neu sydd wedi gwneud peth gwaith yn ystod gwyliau’r ysgol eisoes yn rhan ohono.

Wrth ddewis gyrfa neu wrth benderfynu ar y cam nesaf, mae’n ddefnyddiol gwybod:

  • Pa sgiliau mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt
  • Sut mae modd gwella’ch cyfle o gael y swydd yr hoffech ei chael
  • Pa gyflogwyr lleol sydd yn cynnig y math o waith neu hyfforddiant sydd o ddiddordeb i chi
  • Pwy sydd yn cynnig profiad gwaith
  • Ble fydd swyddi’r dyfodol
  • Pa gyflogwyr sydd yn rhoi gwerth ar sgiliau dwyieithog

Gall y wefan hon ateb yr holl gwestiynau hyn.

Cwis – Taith drwy’r Swyddiadur

Fe wnaiff y Cwis yma eich rhoi chi ar ben y ffordd wrth ddefnyddio Cronfa Ddata Cwmnïau JobCymru.com. Gallwch chwilio’r gronfa ddata gan ddefnyddio:

Geiriau Allweddol megis:

  • Y math o gwmni e.e. Gwesty, modurdy, siop (rhowch gynnig ar ddefnyddio’r ffurf unigol a lluosog e.e. cyfrifydd & cyfrifyddion)
  • Y Sgiliau sydd yn ofynnol e.e. cyfathrebu, gonestrwydd
  • Profiad gwaith
  • Math o hyfforddiant e.e. NVQ, prentisiaeth fodern, hyfforddiant mewnol
  • Lleoliad e.e. Y Drenewydd, Powys, Dolgellau, Caernarfon, Llanelli, Aberystwyth

Categori - caiff cwmnïau eu rhannu’n 4 categori gwahanol - Twristiaeth, Gwerthu, Cynhyrchu a Gwasanaeth

Swydd - gallwch chwilio am swyddi penodol megis cyfrifydd, peiriannydd, cogydd, rheolwr

Llenwch y manylion ac arhoswch i gael gweld y cwmnïau sydd yn ymddangos. Yna, gallwch edrych ar fanylion pob cwmni neu ddewis a dethol!

Dechreuwch ar eich taith yma – pob lwc!!!!!

  • Dewch o hyd i 3 Rhinwedd Gwerthfawr gaiff eu henwi gan gyflogwyr yn y categori Gwerthu
  • Enwch 4 gwahanol Swydd y byddech yn eu canfod mewn Modurdy
  • Dewch o hyd i 2 Westy yn y Swyddiadur ar y We
  • Enwch 3 chwmni sydd â Derbynyddion
  • Dewch o hyd i 3 chwmni yn y categori Cynhyrchu
  • Dewiswch 3 chyflogwr a chanfyddwch beth yw eu Prif Weithgaredd (yr hyn mae’r cwmni yn ei wneud!)
  • Rhestrwch 3 Chwmni ble mae Cymraeg yn hanfodol ar gyfer pob swydd (lefelau 3, 4 & 5)
  • Dewch o hyd i 3 chwmni sydd yn cynnig Profiad Gwaith i ddisgyblion Blwyddyn 10
  • Pa Lefel cymwysterau fyddai ei angen ar Gyfrifydd?
  • Enwch 2 wahanol fath o Hyfforddiant a restrir yn y Swyddiadur ar y We

Sut wnaethoch chi?

Cofiwch edrych ar yr adrannau hyn hefyd:

Os hoffech chi gael cyngor ynglŷn â’ch opsiynau neu syniadau gyrfa, trefnwch i weld Ymgynghorydd Gyrfaoedd o Gyrfa Cymru. Fe allan nhw drafod eich opsiynau, eich syniadau, byd gwaith a gwahanol swyddi. Gallwch ofyn i gael siarad gydag Ymgynghorydd Gyrfa eich ysgol neu goleg neu gysylltu â Gyrfa Cymru yn uniongyrchol. www.gyrfacymru.com

Sut alla’i gynyddu fy siawns o gael y swydd yr hoffwn ei chael?
Gwneud yn dda yn yr ysgol ac ennill cymwysterau da. Datblygu’r sgiliau y mae cyflogwyr eu heisiau. Mae’r rhain yn cynnwys Sgiliau Allweddol – cyfathrebu, gweithio gyda rhifau, gweithio mewn tîm, datrys problemau, TG a gallu dysgu.

Gallwch wella ar eich sgiliau drwy:

  • Brofiad gwaith a gwaith gwirfoddol
  • Gwaith rhan-amser neu waith yn ystod y Gwyliau
  • Bod yn aelod o dîm chwaraeon
  • Gofalu am blant neu’r henoed
  • Trefnu digwyddiad yn yr ysgol neu’r tu allan i’r ysgol
  • Ymaelodi â chlwb neu gymdeithas
  • Defnyddio cyfrifiaduron i gwblhau gwaith cwrs


 
Wales Regions

Tinopolis
*
Tinopolis, sydd â’i bencadlys yn Llanelli, yw’r cwmni cynhyrchu teledu mwyaf ym Mhrydain y tu allan i Lundain, yn ôl arolwg gynhaliwyd yn ddiweddar yng nghylchrawn Broadcast.
*
*
*
*
*

*
Swyddi Gwag
*
05/08/2004
Caerdydd - Cardiff
Mae Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu ...
* * *

*
Newyddion Diweddaraf
*
24/06/2004
JobCymru yn rhoi Sir Gar ar y map
Bu Heledd Cynwal, sy’n wyneb cyfarwydd iawn i’r rhai sy’n dilyn rhaglen Wedi 7, yn ymweld â Ysgol y Strade, Llanelli ar ddydd Mawrth yr 22ain o Fehefin.
* * *

 

 Gorwelion - Menter a Busnes