Canllawiau Ar-Lein JobCymru.com
Athrawon a Thiwtoriaid
Mae JobCymru.com yn adnodd defnyddiol i athrawon a thiwtoriaid mewn sefydliadau addysg lleol gan ei fod yn rhoi gwybodaeth gyffredinol am dueddiadaur farchnad lafur leol ar gyfer ardaloedd gwahanol o Gymru. Mae hefyd yn rhoi proffil o gyflogwyr lleol penodol o fewn 4 sector wahanol (Cynhyrchu, Gwerthu, Twristiaeth & Hamdden a Gwasanaeth)
Pryd mae defnyddior wefan?
- Gwnewch y wefan yn rhan or Rhaglen Addysg Gyrfaoedd gyda disgyblion CA4, Blwyddyn 12/13/myfyrwyr coleg naill ai drwy ddefnyddio gwybodaeth addas iw ddefnyddio mewn gwers neu drwy gynnal sesiwn yrfaoedd ar-lein (gweler y wybodaeth isod ar Dasgaur Swyddiadur ar y We)
- Er mwyn dod o hyd i gyflogwyr addas ar gyfer gweithgareddau Cyswllt Busnes Addysg
- Iw ddefnyddio yn arf traws-gwricwlaidd e.e. mewn Daearyddiaeth, Cymraeg, Technoleg, TG & chyda myfyrwyr GNVQ neu AVCE
Mae gan yr adrannau canlynol wybodaeth ddefnyddiol a newyddion am dueddiadau cyflogaeth:
- Yr Economi Leol Ble maer swyddi? Beth ywr sectorau syn tyfu?
- Prinder Sgiliau pa sgiliau y mae gofyn amdanynt?
- Sgiliau Dwyieithog y Gymraeg ar gweithle
Gallwch chwilota Cronfa Ddata Cwmnïau JobCymru.com (Swyddiadur ar y We) gan ddefnyddio:
Geiriau allweddol er enghraifft:
- Enw cwmni
- Math o gwmni e.e. Cyfrifyddion, Gwestai, Modurdai, Ffatrïoedd. Defnyddiwch y ffurf unigol ar lluosog e.e. cyfrifydd & cyfrifyddion
- Sgiliau a rhinweddau y mae cyflogwyr yn rhoi gwerth arnynt e.e. Cyfathrebu, Gonestrwydd
- Math o brofiad gwaith a gynigir e.e. Blwyddyn 10, pob oedran, coleg Addysg Bellach, Blwyddyn 12
- Hyfforddiant a gynigir e.e. NVQ, hyfforddiant mewnol, prentisiaethau modern
- Ardaloedd daearyddol
Categori rhennir cwmnïau yn 4 categori
- Twristiaeth a Hamdden atyniadau, gwestai, bwytai, lleoliadau chwaraeon
- Cynhyrchu dillad, ffenestri, bwyd
- Gwasanaeth adeiladwyr, cyfrifyddion, trinwyr gwallt, cyfreithwyr, cynghorau, milfeddygon, banciau
- Gwerthu Siopau, modurdai, cyflenwyr adeiladwyr
Swydd chwiliwch am gwmnïau sydd yn cynnig swydd benodol e.e. Cogydd, Ffitiwr, Cyfrifydd
Bydd llawer ohonoch chi eisoes yn gyfarwydd âr Swyddiadur fel ffeil, gan fod ysgolion wedi bod yn ei ddefnyddio fel adnodd dosbarth ers sawl blwyddyn ochr yn ochr â Thasgaur Swyddiadur (cyfres o gynlluniau gwersi wedi eu seilio ar y Swyddiadur). Fersiwn ar-lein ac wedi ei diweddaru o Swyddiaduron Gorwelion ywr gronfa ddata cyflogwyr ar y wefan hon; mae ar yr un fformat ac yn cynnwys yr un wybodaeth. Erbyn hyn maer wefan wedi ehangu i gynnwys mwy o ardaloedd daearyddol ar bwriad yw i hyn barhau er mwyn cynnwys gwybodaeth am Gymru gyfan yn y dyfodol agos.
Mae Tasgaur Swyddiadur wedi eu diweddaru fel eu bod yn gyfredol â datblygiadau newydd ym Maes Gyrfaoedd ac Addysg
Am wybodaeth bellach ar Dasgaur Swyddiadur, cysylltwch âch cwmni Gyrfa Cymru lleol neu gallwch gysylltu â Menter a Busnes drwy ddefnyddior ffurflen e-bost yn adran Cysylltwch â Ni y wefan hon neu e-bostio cysylltu@jobcymru.com
Isod, mae esiampl o sut y gallech chi addasu gweithgareddau o dasgaur Swyddiadur iw defnyddio mewn sesiwn yrfaoedd ar-lein.



