Job Cymru
*
*
 

Caerfyrddin

Mae ymchwil Sgiliau Dyfodol Cymru, ar gyfer Cymru gyfan, yn dangos bod galw cynyddol am bobl sydd a sgiliau yn y meysydd canlynol:

  • Gwyddoniaeth
  • Peirianneg
  • Iechyd
  • Addysg
  • Manwerthu
  • Swyddi rheolaeth cyffredinol
  • Busnesau yn ymwneud â thwristiaeth
  • Egni adnewyddadwy

Yn ogystal â'r meysydd galwedigaethol penodol uchod, mae cyflogwyr hefyd yn adrodd bod y sgiliau meddal canlynol yn bwysig iddynt a'u bod yn brin:

  • Sgiliau gofal cwsmer
  • Sgiliau cyfathrebu, gan gynnwys cyfathrebu yn ddwyieithog
  • Hyblygrwydd / gallu addasu
  • Gweithio fel tîm
  • Mentergarwch
  • Gallu dilyn cyfarwyddiadau

Mae hyn hefyd yn wir ar gyfer Sir Gaerfyrddin, ac yn dilyn ymchwil gan jobcymru, mae’n ymddangos bod cynifer o gwmnïau yn gofyn am y sgiliau canlynol:

  • Peirianneg
  • Sgiliau Technoleg
  • Newyddiadurwyr a golygyddion dwyieithog
  • Sgiliau dwyieithog
  • Sgiliau Celf e.e. gosod ffenestri, gwaith llaw, weldio
  • Gwyddoniaeth a Iechyd

Gallwch chwilio drwy’r bas data cwmnïau er mwyn gweld os oes cwmni sy’n chwilio am y sgiliau sydd gennych. Os ydych yn awyddus i weithio i gwmni arbennig gallwch chwilio drwy’r bas data er mwyn gweld pa sgiliau maen’t yn brin ohonynt neu yn eu gwerthfawrogi.

Gall Gyrfa Cymru eich helpu gyda chyngor a gwybodaeth am brinder sgiliau a chyfleoedd lleol - www.careerswales.com, ac mae gwefan y Gwasanaeth Cyflogi yn cynnwys gwybodaeth am swyddi a chyfleoedd dysgu - www.worktrain.gov.uk

Ffynhonnell bwysig arall o wybodaeth yw Sgiliau Dyfodol Cymru - www.futureskillswales.com

Am fwy o wybodaeth am sgiliau dwyieithog gweler y dudalen arbennig ar y Wefan hon, ac ewch hefyd i Wefan Bwrdd yr Iaith Gymraeg, sef - www.bwrdd-yr-iaith.org.uk

Os hoffech gael gwybodaeth am ffyrdd o ddysgu sgiliau newydd cysylltwch â’r Llinell Cyswllt Dysgu ar 0800 100 900.

Cefnogir jobcymru gan yr Asiantaeth Iaith
yr Asiantaeth Iaith



 
Wales Regions
Cliciwch ar y map i weld ardal

Tinopolis
*
Tinopolis, sydd â’i bencadlys yn Llanelli, yw’r cwmni cynhyrchu teledu mwyaf ym Mhrydain y tu allan i Lundain, yn ôl arolwg gynhaliwyd yn ddiweddar yng nghylchrawn Broadcast.
*
*
*
*
*

*
Swyddi Gwag
*
05/08/2004
Caerdydd - Cardiff
Mae Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu ...
* * *

*
Newyddion Diweddaraf
*
24/06/2004
JobCymru yn rhoi Sir Gar ar y map
Bu Heledd Cynwal, sy’n wyneb cyfarwydd iawn i’r rhai sy’n dilyn rhaglen Wedi 7, yn ymweld â Ysgol y Strade, Llanelli ar ddydd Mawrth yr 22ain o Fehefin.
* * *

 

 Gorwelion - Menter a Busnes